Hygyrchedd
Yn barod i godi cwyn?
CwynoHygyrchedd
Mae ein gwybodaeth ar gael yn Gymraeg neu yn Saesneg. Rydym hefyd yn croesawu ymholiadau, cwynion a cheisiadau mewn gwahanol fformatau. Dywedwch wrthym beth sydd ei angen arnoch, a byddwn yn darparu’r wybodaeth cyn gynted â phosibl. Gall hyn gynnwys y canlynol:
Braille
Print bras
Sgwrs lafar / ar y ffôn
Fformat Hawdd ei Ddarllen
Fformat digidol neu gopi caled
Papur lliw neu liwiau cyferbyniol
Galwad fideo (yn ystod cyfryngu yn unig)
Sut i wneud cais
Gallwch e-bostio info@railombudsman.org gyda’ch gofynion gan gynnwys cyfeiriad dosbarthu, ffonio’r tîm ar 0330 094 0362, neu gysylltu â ni drwy ffyrdd eraill.
Pryd byddaf yn derbyn fy nogfen?
Rhowch rhwng 10–15 diwrnod gwaith i’ch dogfen gyrraedd o ddyddiad eich cais.
Gwasanaeth Dehonglydd Iaith Arwyddion
Rydym yn galluogi defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain i gysylltu â ni drwy ddefnyddio dehonglydd fideo BSL, drwy’r gwasanaeth InterpretersLive! a ddarperir gan Sign Solutions. Mae’r gwasanaeth InterpretersLive! ar gael ar gais 5 diwrnod yr wythnos (09:00 tan 17:00). Gallwch hefyd archebu ymlaen llaw ddehonglwyr fideo BSL a mathau eraill o gymorth cyfathrebu o bell ar unrhyw adeg ac unrhyw le drwy unrhyw blatfform neu ddyfais fideo.
Canllawiau Defnyddiwr
Mae canllawiau defnyddiwr ar gael i gynorthwyo defnyddwyr y gwasanaeth InterpretersLive!. Dewiswch opsiwn i gael rhagor o wybodaeth:
Canllaw Defnyddiwr PDFArgaeledd Gwasanaeth
Mae ein gwasanaeth fideo InterpretersLive! ar gael 09:00 tan 17:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Canllaw Cychwyn Cyflym BSL
Cymorth a Datrys Problemau
Am gymorth technegol neu i lawrlwytho ap InterpretersLive!, ewch i: https://www.interpreterslive.co.uk/app/
Preifatrwydd
Mae darparwyr InterpretersLive!, Sign Solutions, wedi'u hardystio gan ISO 27001 ac ISO 9001. Cedwir a phrosesir yr holl ddata yn ddiogel.