Darparwyr Gwasanaeth
Yn barod i godi cwyn?
CwynoDarparwyr Gwasanaeth
Cyn y gallwn helpu, rhaid rhoi cyfle i’r darparwr gwasanaeth ddatrys y gŵyn cyn y daw atom ni. Mae gan bob darparwr gwasanaeth weithdrefn ymdrin â chwynion sy’n nodi’r broses y dylech ei dilyn os oes gennych gŵyn ynghylch unrhyw agwedd ar ei wasanaeth. I weld gweithdrefn ymdrin â chwynion, cliciwch ar logo’r darparwr gwasanaeth.
Nodwch na allwn ymchwilio i’ch cwyn ond os yw’r darparwr gwasanaeth yn rhan o’n cynllun – gallwch wirio hynny isod. Os nad yw’ch cwyn ynghylch darparwr gwasanaeth sy’n cymryd rhan yn ein cynllun, mae’n bosibl y byddwn yn gallu rhoi gwybod ichi ble y gallwch fynd â hi nesaf. Er enghraifft, gallech fynd at un o gyrff gwarchod y diwydiant – fel Transport Focus neu London TravelWatch.















































Nodwch
Mae Network Rail yn rhan o’r gwasanaeth mewn perthynas â’r gorsafoedd mae’n eu rheoli.
Os nad ydych yn siŵr ynghylch pwy mae’ch cwyn, cysylltwch â’r darparwr gwasanaeth y teithiasoch gydag ef (neu yr ydych yn meddwl y gallai’ch cwyn fod yn ei gylch) ac fe ddylai allu helpu i’ch cyfeirio.
Mae nifer o orsafoedd a weithredir gan London Underground, y mae cwmnïau trên hefyd yn eu defnyddio, yn rhan o’r gwasanaeth. Y gorsafoedd yw:
Amersham | Highbury & Islington | Seven Sisters |
Blackhorse Road | Kensal Green | South Kenton |
Chalfont & Latimer | Kenton | South Ruislip |
Chorleywood | Kentish Town | Stonebridge Park |
Farringdon | Kew Gardens | Stratford |
Greenford | Moorgate | Walthamstow Central |
Gunnersbury | North Wembley | Wembley Central |
Harlesden | Old Street | West Brompton |
Harrow & Wealdstone | Queen’s Park | West Ham |
Harrow on the Hill | Rickmansworth | West Ruislip |
Mae ein cylch gwaith yn cynnwys digwyddiadau yn y gorsafoedd hyn yn unig. Os yw eich cwyn yn ymwneud ag unrhyw agwedd arall ar London Underground, fel gorsaf arall neu wasanaeth, dylech gysylltu â Transport for London.
Gall yr Ombwdsmon Rheilffyrdd dderbyn anghydfod mewn perthynas â London Overground, Elizabeth Line a gorsafoedd London Underground a restrir uchod, lle mae’r anghydfod yn ymwneud â digwyddiad ar neu ar ôl 1 Ebrill 2022.
Gall yr Ombwdsmon Rheilffyrdd dderbyn anghydfod mewn perthynas â Heathrow Express lle mae’r anghydfod yn ymwneud â digwyddiad ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2022.
Gall yr Ombwdsmon Rheilffyrdd dderbyn anghydfodau sy’n ymwneud â Trainline lle mae’r anghydfod yn ymwneud â digwyddiad a ddigwyddodd ar neu ar ôl 31 Ionawr 2025.
Last reviewed: 02/07/2025