Polisi Cyfryngau Cymdeithasol
Sut rydym yn ymgysylltu ar-lein
CwynoPolisi Cyfryngau Cymdeithasol
Polisi Cyfryngau Cymdeithasol
Mae’r Ombwdsmon Rheilffyrdd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â chynulleidfaoedd ac i rannu gwybodaeth am ein gwasanaethau gyda defnyddwyr a rhanddeiliaid.
Mae ein cyfrif X (@RailOmbudsman) yn cael ei reoli gan ein staff cyfathrebu ac yn cael ei fonitro yn ystod oriau gwaith arferol (Dydd Llun – Dydd Gwener, 0900 – 1700). Rydym yn darllen pob ymateb ac Neges Uniongyrchol ac yn ceisio ymateb cymaint â phosibl.
Pwrpas Cyfryngau Cymdeithasol
Rydym yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i siarad am ein gwaith, hyrwyddo digwyddiadau a diweddariadau, ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac anfon gwybodaeth berthnasol. Mae’n ategu ein gwefan drwy gyfeirio defnyddwyr at adnoddau manylach.
Ymgysylltu ac Ymddygiad
Rydym yn annog sgyrsiau parchus ond ni oddefwn sylwadau sarhaus neu ymosodol. Rydym yn cadw’r hawl i dynnu cynnwys sy’n torri ein polisi neu rwymedigaethau cyfreithiol.
• Dim iaith sarhaus, anweddus nac ymosodol • Dim sylwadau enllibus nac aflonyddu • Dim cynnwys gwahaniaethol • Dim dolenni gormodol na sbam • Dim rhannu gwybodaeth bersonol neu gyfrinachol
Ail-drydaru a Dilyn
Efallai y byddwn yn ail-drydaru cynnwys perthnasol, ond nid yw hyn yn golygu ein bod yn cefnogi’r cynnwys. Nid yw dilyn cyfrif yn golygu ein bod yn cefnogi eu barn.
Preifatrwydd a Data
Dylai defnyddwyr osgoi rhannu gwybodaeth bersonol mewn trafodaethau cyhoeddus. Caiff unrhyw ddata personol a rennir gyda ni ei drin yn unol â’n polisïau cadw data.