Cwestiynau Cyffredin
Yn barod i godi cwyn?
CwynoCwestiynau cyffredin
Mwy Amdanom Ni
Rydym yn sefydliad dielw annibynnol wedi’i gymeradwyo gan y Sefydliad Siartredig Safonau Masnach ac yn aelodau llawn o Gymdeithas yr Ombwdsmyn.
Rydym yn cynnig gwasanaeth di-dâl ac arbenigol i ymchwilio i gwynion sydd heb eu datrys am gwmnïau trên a darparwyr gwasanaethau rheilffyrdd sy’n rhan o gynllun yr Ombwdsmon. Enw’r Ombwdsmon ar y rhain yw Darparwyr Gwasanaethau. Rydym hefyd yn cynorthwyo’r diwydiant rheilffyrdd i godi safonau a gwella gwasanaethau i gwsmeriaid.
Nid amddiffynwyr defnyddwyr na chynrychiolwyr y diwydiant ydym ni; ein nod yw helpu a darparu ein gwasanaeth i’r safon uchaf mewn ffordd deg a chytbwys.
Mae Ombwdsmon yn gorff annibynnol sy’n ymchwilio i gwynion mewn ffordd deg ac agored er mwyn ceisio eu datrys heb fynd i’r llys.
Hyd yn oed pan fo Darparwyr Gwasanaethau’n gwneud eu gorau, weithiau mae pethau’n mynd o chwith ac rydych yn anfodlon ar y gwasanaeth yr ydych yn ei gael. Os mai dyma’r sefyllfa, dylech bob amser gwyno wrth y Darparwr Gwasanaeth yn gyntaf a rhoi cyfle iddo ateb ac unioni’r sefyllfa.
Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwch eisiau cwyno wrthym ni:
- os nad yw’n eich ateb;
- os nad ydych yn fodlon ar ei ateb;
- os nad ydych yn fodlon ar y ffordd mae wedi trin eich cwyn.
Os ydym ni’n cytuno bod eich cwyn yn rhywbeth y gallwn edrych arno, byddwn yn ymchwilio iddi mewn modd teg ac annibynnol.
Nid ydym yn cymryd ochr – y cwbl a wnawn yw edrych ar y dystiolaeth a roddir inni. Rydym yn gwrando ar y ddwy ochr er mwyn gweld a allwn ddod o hyd i ateb y gall y ddau ohonoch gytuno arno. Rydym yn ceisio eich annog i ddod i gytundeb, ond os nad yw hyn yn digwydd, byddwn yn gwneud penderfyniad ar sail y dystiolaeth a gawn.
Os na allwn ymdrin â’ch cwyn, byddwn yn dweud wrthych pam na allwn wneud hynny. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod ichi ble gallwch fynd â hi nesaf – mae’n bosibl y byddwn yn gallu eich trosglwyddo yn uniongyrchol i rywun a fydd o bosibl yn gallu eich helpu ymhellach.
Yn y lle cyntaf, rydym yn gobeithio datrys y sefyllfa’n anffurfiol i foddhad y ddwy ochr.
Lle nad yw hynny’n bosibl, mae gennym y pwerau i wneud penderfyniadau sy’n rhwymo Darparwyr Gwasanaethau – mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt gydymffurfio â’n penderfyniadau. Os ydych chi’n derbyn ein penderfyniad, mae gan y Darparwr Gwasanaeth 20 diwrnod gwaith i gydymffurfio, ar ôl y dyddiad yr ydych yn derbyn, oni chytunir gyda chi ar amserlen arall; yn yr achos hwn, honno fydd yn gymwys.
Os yw’r penderfyniad yn cynnwys ad-daliad, rhaid i’r Darparwr Gwasanaeth gwblhau’r ad-daliad cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ôl ichi dderbyn (os ydych chi wedi rhoi’r manylion angenrheidiol fel y gellir gwneud taliad).
Gallwn hefyd wneud argymhellion i Ddarparwyr Gwasanaethau i wella eu gwasanaeth ac rydym yn cyhoeddi astudiaethau achos a data a all eu helpu i ddeall yr hyn y gallent ei wneud i godi safonau.
- Hyder y byddwn yn trin eich cwyn mewn ffordd deg a chytbwys
- Y gallu i gael gwasanaeth annibynnol ac arbenigol nad oes rhaid ichi dalu i’w ddefnyddio
- Proses gyflym a syml sy’n arbed amser, straen ac arian i chi, yn hytrach na mynd trwy’r llysoedd
- Penderfyniadau mae’n rhaid i’r Darparwyr Gwasanaethau gydymffurfio â nhw
- Gwybodaeth a chanllawiau defnyddiol ar ein gwefan
- Yr opsiwn i fynd â’ch cwyn i rywle arall os nad ydych yn cytuno â’n penderfyniad ni
Rydym yn aelodau llawn o Gymdeithas yr Ombwdsmyn. Ein hegwyddorion cyffredin yw annibyniaeth, tegwch, effeithiolrwydd, atebolrwydd, bod yn agored a thryloywder
Nid amddiffynwyr defnyddwyr na chorff masnachu yw’r Ombwdsmon Rheilffyrdd. Rydym yn gweithredu’n annibynnol er mwyn sicrhau tegwch ym mhob achos. Mae mwyafrif ein Bwrdd Cyfarwyddwyr yn gyfarwyddwyr anweithredol annibynnol a’u rôl yw sicrhau y caiff ein hannibyniaeth ei diogelu.
Fel pob Ombwdsmon rydym yn cael ein hariannu gan y diwydiant mae gennym awdurdodaeth drosto, sy’n golygu nad oes rhaid i ddefnyddwyr dalu am ein gwasanaethau.
Nac ydym. Fel Ombwdsmon rydym yn sefydliad ar wahân i’r Darparwyr Gwasanaethau. Mae gan bob Darparwr Gwasanaeth ei weithdrefn ymdrin â chwynion a dylid dilyn hon wrth godi cwyn. Os oes gennych gŵyn, dylech ymgysylltu â’r Darparwr Gwasanaeth i geisio datrys eich cwyn gydag ef yn uniongyrchol – ni fyddem ni’n ymwneud â’r mater ar y cam hwn.
Gallwn gamu i mewn os yw’ch cwyn heb ei datrys ar ôl ichi ddilyn gweithdrefn ymdrin â chwynion y Darparwr Gwasanaeth. Ni allwn ymwneud â’r mater ond ar ôl i 40 diwrnod fynd heibio ers ichi gwyno wrth y Darparwr Gwasanaeth neu os ydych wedi cael ateb terfynol yr ydych yn anfodlon arno. Rydym yn gweithredu’n annibynnol er mwyn sicrhau canlyniad teg a chaiff pob achos ei asesu’n unigol.
I gael gwybod mwy am weithdrefn ymdrin â chwynion eich Darparwr Gwasanaeth, cliciwch yma.
Mae Asesydd Annibynnol yr Ombwdsmon Rheilffordd ar gael i dderbyn sylwadau a phryderon ynghylch safon y gwasanaeth a ddarparwyd gan yr Ombwdsmon Rheilffyrdd, ond nid yw’n ymdrin â sail ei benderfyniadau. Mae’r Asesydd Annibynnol yn llunio adroddiad blynyddol yn seiliedig ar yr achosion a welwyd ganddynt ac ar unrhyw gamau gweithredu a gymerwyd gan yr Ombwdsmon Rheilffordd o ganlyniad i’w argymhellion.
Operational Details
Byddwn yn adrodd ar ddata ynghylch cwynion o 2019 ymlaen.
Nid corff cyhoeddus mohonom ac felly nid ydym yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Fodd bynnag, rydym yn cyhoeddi gwybodaeth a data ynghylch cwynion yma.
I gael gwybodaeth ynghylch sut yr ydym yn defnyddio’ch data, cliciwch yma.
Os oes unrhyw beth arall yr hoffech ei wybod, rydym ni yma i helpu. Cliciwch yma i gael gwybod sut i gysylltu â ni.
The Process
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn. Os ydych chi’n iau nag 16 oed, peidiwch â phoeni – gallwch godi cwyn os oes gennych gynrychiolydd, megis rhiant, gwarcheidwad neu ffrind, sy’n 16 oed neu’n hŷn.
Gallwn hefyd dderbyn cwynion oddi wrth grwpiau o bobl sy’n teithio gyda’i gilydd ac sy’n adnabod ei gilydd, fel teulu ar wibdaith (nid yw hyn yn cynnwys achosion gan grwpiau neu ymgyrchoedd).
Cyn y gallwn ystyried eich cwyn, rhaid ichi geisio datrys eich cwyn gyda’r Darparwr Gwasanaeth yn gyntaf. Dylech gysylltu â ni:
- os nad yw wedi datrys eich cwyn cyn pen 40 diwrnod gwaith ar ôl iddo gael eich cwyn; neu
- os ydych yn anfodlon ar ei ateb terfynol a gafwyd mewn llythyr/neges e-bost (a elwir weithiau “llythyr methiant i gytuno”).
Nodwch, oni fo amgylchiadau eithriadol, fod yn rhaid ichi gwyno wrthym ni cyn pen 12 mis ar ôl unrhyw ateb terfynol oddi wrth y Darparwr Gwasanaeth.
Ateb terfynol ysgrifenedig oddi wrth y Darparwr Gwasanaeth yw llythyr methiant i gytuno. Gall hyn fod mewn llythyr neu neges e-bost, neu efallai hyd yn oed neges destun.
Ar ôl inni gael eich cwyn byddwn yn rhoi rhif cyfeirnod ichi. Bydd yn edrych rhywbeth yn debyg i R123456.
Cadwch y rhif cyfeirnod hwn yn ddiogel a chofiwch ei ddefnyddio pob tro y byddwch yn cysylltu â ni. Bydd hyn yn ein helpu i ddod o hyd i’ch manylion yn gyflymach. Os ydych yn colli’r rhif cyfeirnod neu os nad yw wrth law gennych chi – peidiwch â phoeni, dylem allu dod o hyd i’ch cwyn ar ein system.
I ddechrau, byddwn yn gweithio allan a yw’ch cwyn yn rhywbeth y gallwn ymchwilio iddo. Os gallwn fynd â hi ymhellach, byddwn yn parhau i ymchwilio er mwyn ceisio datrys eich cwyn. Bydd Ombwdsmon unigol yn ymdrin â’ch achos a bydd yn cysylltu â chi i gyflwyno ei hun ac i roi gwybod ichi beth yw’r camau nesaf.
Os na allwn ymdrin â’ch cwyn, byddwn yn rhoi gwybod ichi pam na allwn wneud hynny. Byddwn hefyd, lle bo modd, yn awgrymu opsiynau gwahanol sydd ar gael neu’n trosglwyddo’ch cwyn i sefydliad arall a all, o bosibl, eich helpu ymhellach. Er enghraifft, gallai hyn fod yn un o gyrff gwarchod y diwydiant – fel Transport Focus neu London TravelWatch. Os gwnawn hyn, ein nod fydd trosglwyddo’ch cwyn cyn pen pum diwrnod gwaith.
. Ar ôl iddi gael ei throsglwyddo, byddwn yn cau’ch achos.
Byddwn yn rhoi gwybod ichi yn rheolaidd sut mae pethau’n mynd. Fodd bynnag, gallwch fewngofnodi ar ein gwefan i dracio cynnydd eich cwyn o’r dechrau i’r diwedd. Os hoffech, gallwn anfon diweddariadau awtomatig atoch trwy destun SMS ac e-bost wrth i’ch cwyn fynd rhagddi.
Does dim rhaid ichi fwrw ymlaen â chwyn os nad ydych eisiau gwneud. Os penderfynwch nad ydych eisiau mynd â hi ymhellach, does dim problem. Rhowch wybod inni ac fe gaewn yr achos.
Rhoddir gwybod i’r ddwy blaid yn yr achos pan fydd y ‘ffeil achos llawn’ (h.y. ffurflen gais gwyno gan y Defnyddiwr a’r ymateb gan yr Aelod) wedi’i dderbyn.
Rydym yn ceisio bod yn deg a rhesymol bob amser. Efallai na fyddwch yn cytuno gyda ni; mae perffaith hawl gyda chi i wneud hynny. Fodd bynnag, pan fydd penderfyniad wedi’i wneud, bydd yr achos yn cau. Byddwch yn cadw’r hawl i fynd ar ôl yr achos trwy sianelau amgen, fel y llysoedd.
Submitting Complaints
Cewch ddod atom ni gydag unrhyw gŵyn sydd heb ei datrys ynghylch un o’r Darparwyr Gwasanaethau sy’n cymryd rhan yn ein cynllun os yw’n bodloni ein Rhestr Wirio Cymhwysedd.
Byddwn yn adolygu’ch cwyn ac yn penderfynu a yw’n rhywbeth y gallwn ninnau ymchwilio iddo, neu’n rhywbeth mae angen i sefydliad arall ymdrin ag ef.
Ein rôl ni yw ymchwilio i ansawdd y gwasanaeth a ddarparwyd ar sail yr ymrwymiadau mae Darparwr Gwasanaeth wedi’u gwneud i chi, a’ch hawliau fel defnyddiwr. Ni allwn ymchwilio i gwynion sy’n ymwneud â pholisïau neu reoliadau’r diwydiant.
Rydym yn ymdrin â chwynion am wasanaethau rheilffyrdd sy’n ymwneud â’r canlynol:
- oedi i drenau a chanslo trenau;
- gwerthu ac ad-daliadau tocynnau;
- gwasanaeth cwsmeriaid;
- materion sy’n ymwneud â diogelwch, fel gorlawnder;
- gwybodaeth a roddwyd am deithiau neu waith peirianyddol;
- argaeledd a mynediad at gyfleusterau mewn gorsafoedd gan gynnwys toiledau, lifftiau, grisiau symudol, ystafelloedd aros, parcio, storio beiciau, cyhoeddiadau, gwerthu tocynnau, ac eiddo coll;
- ansawdd y gwasanaethau sydd ar gael ar drên gan gynnwys toiledau, bwyd a diod, gwresogi, aerdymheru, gwybodaeth, cyhoeddiadau, Wi-Fi, bwciadau blaenoriaeth a seddi cadw;
- cymorth i deithwyr, cyfleusterau i gwsmeriaid ag anableddau, a chamwahaniaethu neu broblemau sy’n codi o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Cewch ddod atom ni gydag unrhyw gŵyn sydd heb ei datrys ynghylch un o’r Darparwyr Gwasanaethau sy’n cymryd rhan yn ein cynllun os yw’n bodloni ein Rhestr Wirio Cymhwysedd.
Byddwn yn adolygu’ch cwyn ac yn penderfynu a yw’n rhywbeth y gallwn ninnau ymchwilio iddo, neu’n rhywbeth mae angen i sefydliad arall ymdrin ag ef.
Ni ydym yn gallu ymchwilio i gwynion ynghylch:
- polisi cyhoeddus ar drafnidiaeth, preifateiddio neu sut mae’r diwydiant yn cael ei redeg;
- streiciau;
- sut mae llinell reilffordd yn effeithio ar eich cartref;
- apelio yn erbyn taliadau cosb neu ddirwyon parcio;
- cwynion yn ymwneud â chanlyniad camau disgyblu staff;
- cwynion mae sefydliad arall, fel y llysoedd, eisoes wedi ymdrin â nhw neu wrthi’n ymchwilio iddyn nhw;
- materion sydd y tu hwnt i reolaeth y Darparwr Gwasanaeth;
- os ydych eisoes wedi derbyn penderfyniad neu gynnig a wnaed gan y Darparwr Gwasanaeth;
- os ydych yn hawlio am golledion busnes;
- os ydych yn hawlio mwy na £2500 mewn iawndal; neu
- os yw’n ymwneud â rhywbeth a ddigwyddodd cyn i wasanaeth yr Ombwdsmon Rheilffyrdd gael ei sefydlu.
Os ydym ni’n credu nad yw’ch cwyn yn rhywbeth y gallwn ymchwilio iddo – byddwn yn esbonio’n glir pam. Byddwn hefyd, lle bo modd, yn awgrymu opsiynau gwahanol sydd ar gael neu’n trosglwyddo’ch cwyn i sefydliad arall a all, o bosibl, eich helpu ymhellach, fel Transport Focus neu London TravelWatch – y cyrff gwarchod annibynnol i’r diwydiant rheilffyrdd. Byddan nhw’n adolygu’ch cwyn yn annibynnol a, lle bo’n briodol, yn mynd ar ôl y mater ymhellach ar eich rhan.
Cymru, Lloegr a’r Alban.
Mae ein gwasanaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Os nad y Gymraeg neu’r Saesneg yw’ch iaith gyntaf, byddwn yn ceisio gwneud addasiadau i’ch helpu i ddefnyddio ein gwasanaeth.
Y ffordd gyflymaf i gyflwyno cwyn inni yw trwy lenwi ein ffurflen ar-lein.
Os yw’n well gennych, gallwch lawrlwytho ffurflen bapur o’n gwefan neu ofyn inni bostio un atoch chi. Ar ôl ichi ei llenwi, gallwch anfon eich ffurflen bapur yn ôl atom ni trwy e-bost at info@railombudsman.org neu ei phostio atom at FREEPOST – RAIL OMBUDSMAN.
Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein gwasanaeth yn syml ac yn hawdd ei ddefnyddio, beth bynnag fo’ch anghenion. Os oes gennych chi unrhyw anghenion neu ddewisiadau penodol, rhowch wybod inni a byddwn yn gwneud addasiadau lle gallwn. Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn neu ffôn testun, trwy WhatsApp, e-bost neu x/twitter Cysylltwch â ni ).
Mae gwybodaeth am ein gwasanaeth ar gael yn y fformatau canlynol:
- print bras;
- Braille;
- hawdd ei ddeall; a
- sain
Gallwn hefyd roi gwybod ichi sut i gwyno wrthym ni os oes arnoch angen gwasanaethau cyfieithu neu Iaith Arwyddion Prydain. Gallwch ddod o hyd i Iaith Arwyddion Prydain ar y dudalen Cysylltwch â Ni.
Wrth gwrs. Os hoffech gael help i wneud eich cwyn, gallwch drefnu i rywun eich cynorthwyo, er enghraifft, aelod o’r teulu, ffrind neu gynrychiolydd arall. Ar yr amod bod eich cynrychiolydd yn 16 oed neu’n hŷn ac wedi cytuno i helpu, rydym yn fodlon ichi gymryd unrhyw gamau rhesymol mae arnoch eu hangen i’ch helpu i gyflwyno’ch achos gorau inni.
Does dim angen ichi benodi cyfreithiwr neu gynghorydd i wneud cwyn inni. Fodd bynnag, os ydych eisiau gwneud hynny, wrth gwrs, fe allwch.
Complaint Resolutions
Os gallwn fynd â’ch cwyn ymhellach, bydd un o’n Hombwdsmyn yn cysylltu â chi i gyflwyno ei hun ac esbonio beth fydd yn ei wneud.
Ein gwaith ni wedyn yw casglu gwybodaeth a thystiolaeth. Byddwn yn cysylltu â’r Darparwr Gwasanaeth ac yn gofyn iddo ymateb i’ch cwyn – gan roi ei ochr ef i’r stori. Rydym yn disgwyl iddo wneud hynny cyn pen 10 diwrnod gwaith.
Wedyn byddwn yn pwyso a mesur y dystiolaeth a ddarparwyd, gan gymryd i ystyriaeth yr hawliau a dyletswyddau sydd wedi eu nodi yn y gyfraith a’r hyn sy’n deg, yn rhesymol ac yn ymarferol. Mae’n bosibl y bydd arnom ni angen mwy o wybodaeth, naill ai gennych chi neu gan y Darparwr Gwasanaeth neu gan y ddau ohonoch chi; a byddwn yn gofyn am honno.
Ein nod yw rhoi diweddariadau rheolaidd ichi ynghylch sut mae pethau’n mynd. Os oes oedi – byddwn yn rhoi gwybod ichi (er enghraifft, os yw’n profi’n anodd cael gwybodaeth benodol neu os yw rhywun mae angen inni siarad ag ef ar wyliau neu ar absenoldeb salwch).
Bydd canlyniad ein hymchwiliad yn dibynnu ar y dystiolaeth a’r wybodaeth a ddarparwyd. I ganiatáu inni ymchwilio’n llawn i’ch cwyn, gofynnwn ichi ddarparu tystiolaeth i gefnogi’ch achos.
Byddwn yn gofyn ichi esbonio wrthym ni, yn eich geiriau chi, beth ddigwyddodd, a beth yr hoffech i’r Darparwr Gwasanaeth wneud yn ei gylch.
Gan ddibynnu ar eich cwyn, mae’n bosibl y byddwn hefyd yn gofyn ichi gynnwys pethau fel:
- copïau o ohebiaeth (llythyrau, negeseuon e-bost, negeseuon testun) am y gŵyn (gan gynnwys os ydych wedi cael llythyr “methiant i gytuno” oddi wrth y Darparwr Gwasanaeth yn dweud na fydd yn mynd â hi ymhellach);
- prawf eich bod wedi prynu tocyn;
- prawf eich bod wedi archebu gwasanaeth ymlaen llaw: cadw sedd, cymorth mewn gorsaf ac yn y blaen;
- unrhyw dderbynebau perthnasol;
- dyddiadau ac amserau’r daith / teithiau;
- cynigion neu atebion a gafwyd oddi wrth y Darparwr Gwasanaeth;
- llwybrau neu gamau eraill a gymerasoch i osgoi costau neu oedi ychwanegol ar eich taith;
- ffotograffau; a/neu fideos a;
- sgrinluniau.
Byddwn yn gofyn i’r Darparwr Gwasanaeth esbonio ei ddealltwriaeth o’ch cwyn, a yw’n cytuno ei fod ar fai a beth mae wedi’i wneud neu mae’n bwriadu ei wneud i unioni’r sefyllfa. I gefnogi hyn, gan ddibynnu ar y gŵyn, efallai y byddwn yn gofyn iddo am bethau fel:
- ei Siarter Teithwyr;
- prawf o’r camau mae wedi’u cymryd eisoes;
- unrhyw gynigion a wnaed eisoes i ddatrys y gŵyn;
- datganiadau gan ei staff;
- data a gasglwyd o gatiau tocynnau awtomatig, systemau teledu cylch cyfyng neu gardiau clyfar; a
- phrawf bod gwasanaeth wedi cael ei archebu: cadw sedd, cymorth mewn gorsaf.
Cam 1: Cyfryngu – Cam cyntaf ein proses yw cyfryngu sy’n golygu y byddwn yn ceisio eich annog chi a’r Darparwr Gwasanaeth i ddod i gytundeb. Byddwn yn adolygu’r dystiolaeth a roddwyd inni, a byddwn yn cysylltu â chi (gallai hyn fod dros y ffôn neu drwy e-bost neu lythyr) a’r Darparwr Gwasanaeth i weld a allwn gytuno ar ffordd i ddatrys y gŵyn.
Cam 2: Dyfarnu – Os na allwch chi a’r Darparwr Gwasanaeth ddod i gytundeb, byddwn yn symud i’r ail gam a elwir dyfarnu. Mae hyn yn golygu y bydd Ombwdsmon yn gwneud penderfyniad annibynnol ar yr achos ar sail y dystiolaeth a’r wybodaeth a ddarparwyd. Mae’r penderfyniad hwn yn rhwymo’r Darparwr Gwasanaeth ond nid yw’n eich rhwymo chi fel y cwsmer.
Gan ein bod yn annibynnol, mae’n bosibl y bydd ein penderfyniad yn wahanol i’r hyn yr oeddech yn gobeithio amdano neu i’r hyn a gynigiwyd o’r blaen gan y Darparwr Gwasanaeth. Rydym yn trin pob achos yn deg ar y dystiolaeth a ddarparwyd a byddwn yn rhoi gwybod ichi am ein penderfyniad yn ysgrifenedig.
Yn naturiol, rydym eisiau datrys pethau mor gyflym ag sy’n bosibl. Mewn llawer o achosion, gorau po gyntaf y byddwch chi a’r Darparwr Gwasanaeth yn anfon y wybodaeth a’r dystiolaeth mae eu hangen. Mae faint o amser mae’n ei gymryd hefyd yn dibynnu pa mor gymhleth yw’ch cwyn ac a oes angen cyfryngu neu ddyfarnu. Fodd bynnag, ein nod yw cwblhau pob achos cyn pen 40 diwrnod gwaith – er na ddylai’r rhan fwyaf gymryd mor hir â hyn. Byddwn yn rhoi gwybod ichi yn rheolaidd sut mae pethau’n mynd.
Bydd y canlyniad yn dibynnu ar yr achos. Efallai y byddwch chi a’r Darparwr Gwasanaeth yn cytuno arno ar y cam cyfryngu neu efallai y bydd yr Ombwdsmon yn penderfynu arno ar y cam dyfarnu. Efallai y bydd canlyniad yr achos yn cynnwys ad-daliad neu ostyngiad. Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i’r Darparwr Gwasanaeth roi esboniad neu ymddiheuriad neu arwydd o ewyllys da a allai fod yn rhodd neu’n daith am ddim.
Os ydych chi’n cytuno â’n penderfyniad, mae gennych 20 diwrnod gwaith i’w dderbyn, neu bydd y cynnig yn dod i ben. Os ydych chi’n derbyn ein penderfyniad, bydd hyn yn rhwymo’r Darparwr Gwasanaeth.
Ydyn, mae ein penderfyniadau’n rhwymo Darparwyr Gwasanaethau os ydych chi’n derbyn y penderfyniad – mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt gydymffurfio â’n penderfyniad. Fodd bynnag, nid yw ein penderfyniadau’n eich rhwymo chi fel y cwsmer ac nid oes rhaid ichi dderbyn os nad ydych yn dymuno gwneud.
Noder, er mwyn i benderfyniad rwymo’r Darparwr Gwasanaeth, mae’n rhaid ichi dderbyn y penderfyniad cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y rhoddwyd gwybod ichi am y penderfyniad.
Mae gan y Darparwr Gwasanaeth 20 diwrnod gwaith i gydymffurfio â’n penderfyniadau ni ar ôl y dyddiad yr ydych yn eu derbyn, oni chytunwyd gyda chi ar amserlen arall; yn yr achos hwn, honno fydd yn gymwys. Os yw’r penderfyniad yn cynnwys ad-daliad, rhaid i’r Darparwr Gwasanaeth gwblhau’r ad-daliad cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ôl ichi ei dderbyn (os ydych wedi rhoi’r manylion angenrheidiol fel y gellir gwneud taliad).
Bydd yr Ombwdsmon Rheilffyrdd yn gallu dilyn hyn i fyny ar ôl i’r Darparwr Gwasanaeth gael cyfle rhesymol i drefnu hyn gyda chi. Gofynnwn ichi ganiatáu 20 diwrnod gwaith i’r Darparwr Gwasanaeth brosesu’ch setliad (neu 10 diwrnod gwaith os ydych chi’n aros am ad-daliad). Os nad ydych yn clywed oddi wrtho neu os nad ydych wedi cael eich setliad ar ôl y cyfnod hwn, anfonwch neges e-bost at: aftercare@railombudsman.org.
Os yw penderfyniad yr Ombwdsmon yn wahanol i’r hyn a gynigiwyd o’r blaen gan y Darparwr Gwasanaeth, mae’n bosibl na fyddwch yn gallu dibynnu ar y cynnig blaenorol, a all gael ei dynnu’n ôl.
Rydym yn ceisio bod yn deg ac yn rhesymol bob amser. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn anghytuno â ni. Mae perffaith hawl gennych i wneud hynny. Fodd bynnag, unwaith mae penderfyniad wedi cael ei wneud, mae’r achos wedi’i gau. Ni fyddwn yn gallu eich helpu rhagor, ond gallwn eich cynghori ynghylch beth arall y gallwch ei wneud: er enghraifft, cymryd camau cyfreithiol trwy’r llysoedd.
Os ydych chi’n anfodlon ar y ffordd rydym ni wedi eich trin chi neu’ch cwyn, rhowch wybod inni. I gael gwybodaeth ynghylch sut i wneud cwyn am ein gwasanaeth, cliciwch yma.
Last reviewed: 01/07/2025