Hygyrchedd
0330 094 0362E-bost: info@railombudsman.org

Cwyn

Yn barod i godi cwyn?

Cwyno

Gwneud cwyn

Complaint Step 3

Pa fath o gwynion ydym ni’n ymdrin â nhw?

Cewch ddod atom ni gydag unrhyw gŵyn sydd heb ei datrys ynghylch un o’r Darparwyr Gwasanaethau sy’n cymryd rhan os yw’n bodloni ein Rhestr Wirio Cymhwysedd. Byddwn yn adolygu’ch cwyn ac yn penderfynu a yw’n rhywbeth y gallwn ninnau ymchwilio iddo, neu’n rhywbeth mae angen i sefydliad arall ymdrin ag ef.

Ein rôl ni yw ymchwilio i ansawdd y gwasanaeth a ddarparwyd ar sail eich hawliau fel defnyddiwr. Ni allwn ymchwilio i bolisïau neu reoliadau ehangach y diwydiant rheilffyrdd.

Os ydym ni’n credu nad yw’ch cwyn yn rhywbeth y gallwn ymchwilio iddo – byddwn yn esbonio’n glir pam. Byddwn hefyd, lle bo modd, yn awgrymu opsiynau gwahanol sydd ar gael neu’n trosglwyddo’ch cwyn i sefydliad arall a all, o bosibl, eich helpu ymhellach, fel Transport Focus neu London TravelWatch – y cyrff gwarchod annibynnol i’r diwydiant rheilffyrdd.

I gael mwy o wybodaeth am y mathau o gwynion y gallwn ymchwilio iddyn nhw, trowch at ein Tudalen Adnoddau.

Pa fath o gwynion ydym ni’n ymdrin â nhw?

Os oes gennych gŵyn ynghylch ddarparwr gwasanaeth sy’n cymryd rhan ac nad ydych wedi gallu ei datrys, efallai y gallwn eich helpu.

Nawr eich bod yn gwybod mwy, a ydych chi’n barod i gyflwyno’ch cwyn atom ni?

Cwyno