Hygyrchedd
0330 094 0362E-bost: info@railombudsman.org

Cwynion Am Ein Gwasanaeth Ni

Yn barod i godi cwyn?

Cwyno

Os nad yw’r gwasanaeth a gawsoch gan Ombwdsmon y Rheilffyrdd wedi bodloni safonau ein proses , gallwch godi cwyn ffurfiol drwy e-bost neu yn ysgrifenedig.

Sut alla i gwyno am wasanaeth yr Ombwdsmon?

Dylid anfon cwynion e-bost at: complaints@railombudsman.org.

Dylid anfon cwynion drwy’r post at:
Yr Ombwdsmon, Cwynion
1af Llawr, Premier House, Argyle Way,
Stevenage, Swydd Hertford, SG1 2AD.

Os oes gennych Gyfeirnod Achos, cofiwch ei gynnwys yn glir.

Os ydych dal yn anfodlon ar ein gwasanaeth ar ôl i ni adolygu’ch cwyn, byddwch yn gallu cysylltu â’r
Asesydd Annibynnol.

Nawr eich bod yn gwybod mwy, a ydych chi’n barod i gyflwyno’ch cwyn atom ni?

Cwyno